Yn aml bydd y term 'digidol' yn cael ei gyfuno yn y sector wirfoddol. Mae'r Catalyst yn awyddus i roi diwedd ar hyn, ac felly wedi cynhyrchu'r canllaw yma.

Mae'n cynnig diffiniadau o'r sawl ystyr gwahanol y sydd wrth siarad am ddigidol. Y gobaith yw bod hyn yn helpu pawb yn y sector i ddeall yn well.

Mae mwy nag un diffiniad o ddigidol

Nid yw'r canllaw yma yn cynnig un diffiniad o ddigidol. Mae'n mynd ati i ddangos y gwahaniaethau gyda 9 'diffiniad o ddigidol' gwahanol.

Nid yw'r diffiniadau yma yn 100% yn gywir neu'n anghywir. Y bwriad ydy dangos bod sawl ystyr wrth siarad am ddigidol.

Yn ogystal, nid canllaw yw hwn i egluro sut i wneud rhywbeth digidol. Yn hytrach mae'n cynnig dolenni i 1 neu 2 adnodd ar gyfer pob diffiniad sydd wedi cael eu dewis yn ofalus. Am fwy, edrychwch ar Adnoddau Catalyst.

Y cysyniad caffi

Mae'r canllaw yma yn defnyddio'r cysyniad caffi defnyddiwyd gan Cassie Robinson yn ei herthygl yn 2019, 'Yr hyn rydym yn ei ddysgu am sut mae'r sector yn deall "digidol"', gan fod pobl wedi dweud bod y cysyniad yma wedi egluro digidol yn well iddynt. Mae hefyd yn cyflwyno cyfnodau newydd yn siwrne ddigidol y caffi ac yn ymestyn y maes ymhellach. 

Dychmygwch eich bod yn berchnogion caffi, lle bach yng nghanol tref, yn gwerthu coffi rhost cartref poblogaidd, brechdanau syml a chacennau...

1. Trawsffurfiad digidol

#popeth #sefydliad #graddfa

Yn y caffi...

Rydym yn deall nad ydym yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ac mae yna sawl problem (fel hen diliau a pheiriannau darllen cardiau) gallai eu datrys wrth integreiddio digidol i'r ffordd rydym yn gweithredu. Mae ein defnydd o ddigidol hyd yn hyn wedi bod ar hap ac yn dameidiog. Ond, rydym wedi penderfynu newid hyn. Rydym yn awyddus i ddefnyddio dull rhagweithiol a cydlynol. Felly, rydym am adolygu ein systemau, darganfod yr hyn sydd ei angen ar ein cwsmeriaid a datblygu strategaeth. Mae'r siwrne trawsnewid wedi cychwyn!

Trawsnewid digidol yw:

Dull strategol a pwrpasol i integreiddio technoleg a ffyrdd digidol o weithio mewn sefydliad. Fel arfer, mae hyn yn cael ei yrru gan gydnabyddiaeth o'r angen i feddwl a gweithio'n wahanol. Mae hyn yn arwain at newidiadau mewn:

  • agwedd, sgiliau a chynhwysedd pobl
  • diwylliant sefydliad - agwedd digidol sydd yn arwain at fwy o arbrofi a herio'r sefyllfa bresennol
  • gweithrediadau, trosglwyddiad gwasanaeth a model busnes sefydliad

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut mae gwella'r ffordd mae ein sefydliad yn gweithio?

Sut mae newid y ffordd mae ein sefydliad yn ymdrin â digidol?

Sut mae gwneud defnydd gwell o ddigidol - ar gyfer ein staff a'r bobl sydd yn defnyddio ein gwasanaethau?

Sut mae ailgynllunio'r sefydliad yma i gyrraedd anghenion a disgwyliadau newidiol pobl, a'r newidiadau ehangach yn y gymdeithas?

Ased pwysig

Strategaeth ddigidol - gan fod hwn yn rhoi sylfaen i'ch trawsnewidiad.

Dysgu mwy

2. Arweinyddiaeth ddigidol

#pobl #agwedd #ymddygiad

Yn y caffi... 

Rydym ni (y perchennog a'r rheolwr) yn adnabod bod angen deall mwy am y ffordd y gall digidol helpu'r caffi. Felly, penderfynom ddysgu wrth gynnal yr adolygiad. Gofynnom i'n staff am eu barn a'u syniadau, darllen am arweinyddiaeth ddigidol, a siarad gyda busnesau bach eraill oedd yn ymddangos ar y blaen yn ddigidol. Rydym yn ceisio modelu'r dull chwilfrydig ac agored i ddigidol sydd i'w weld ymysg ein cyfoedion a'n staff.

Arweinyddiaeth ddigidol yw:

Derbyn yr her a'r cyfleoedd a ddaw gyda digidol, mewn ffordd sydd yn helpu eraill yn y sefydliad i wneud hynny hefyd. Gall arweinyddiaeth ddod o ffynonellau traddodiadol a gan unrhyw un sydd yn barod i arbrofi, dysgu a rhannu gyda'u tîm neu sefydliad.

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut ydw i'n helpu fy sefydliad i newid y ffordd defnyddir digidol yn y cynlluniau a'r gweithrediadau?

Sut ydw i'n helpu'r bobl yn ein sefydliad i wneud rhywbeth digidol neu fod yn fwy hyderus yn ddigidol.

Ble ydw i'n cychwyn?

Sut ydw i'n hybu pobl i roi tro ar bethau digidol newydd?

Ased pwysig

Pobl - dim ond pobl sydd yn gallu arwain newid

Dysgu mwy

3. Prosesau digideiddio

#effeithiolrwydd

Yn y caffi...

Rydym yn parhau i ddefnyddio pad papur i gymryd archebion ac mae llawer o'r cyfri stoc yn cael ei gyflawni wrth gyfrif a nodi gyda phapur a phensel. Mae ein hadolygiad wedi adnabod dwy ffordd i wella'r ffordd o wneud hyn. Gallem gychwyn nodi yn ddigidol gyda meddalwedd taenlen neu ddechrau defnyddio meddalwedd archebu a chyfri stoc bwrpasol (bydd angen diweddaru'r caledwedd).

Prosesau digideiddio yw:

Symud o brosesau ar bapur i ddefnyddio technoleg a digidol i weithredu'n fwy effeithlon.

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut gallem ni, fel sefydliad, ddod yn fwy effeithlon ac effeithiol?

Ased pwysig

Meddalwedd sydd yn gwneud y pethau rydych chi'n gwneud ar bapur ar hyn o bryd.

Dysgu mwy

4. Isadeiledd digidol

#effeithiolrwydd #systemau

Yn y caffi...

Mae gennym diliau digidol. Ond mae'r rhain bron yn 10 oed bellach. Maent yn araf, a phethau yn mynd o'i le yn aml. Nid ydynt yn cysylltu gyda phrosesau yn y swyddfa nac yn cyfri stoc. Rydym yn ymwybodol bod angen diweddaru.

Penderfynom brynu tiliau newydd sydd yn gallu cysylltu gyda'r meddalwedd archebu a chyfri stoc nodwyd. Penderfynom brynu’r meddalwedd hefyd. Rydym yn teimlo'n hyderus mai dyma'r buddsoddiad cywir diolch i'r adolygiad yma.

Isadeiledd digidol yw:

Y caledwedd a'r meddalwedd digidol sydd yn creu systemau a galluogi prosesau digidol.

Sicrhau bod yr holl systemau digidol defnyddir yn gyfoes, wedi cysylltu â'i gilydd ac yn cael eu cynnal yn dda.

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut gallem ddod yn fwy effeithlon ac effeithiol fel sefydliad?

Sut gallem helpu ein staff i beidio teimlo'n rhwystredig gyda'n systemau?

Oes angen buddsoddi mewn mwy o ddatrysiadau digidol?

Ased pwysig

Caledwedd sydd yn gweithio'n dda.

Dysgu mwy

  • Gall Assemble eich helpu chi i wneud penderfyniadau am feddalwedd a chaledwedd.
5. Ymgysylltiad digidol

#cyfathrebu #marchnata #gwrando

Yn y caffi... 

Rydym wedi bod yn cynnal amrywiaeth o gyfathrebu a marchnata. Rydym eisiau sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol y gallant brynu ein coffi barista. Rydym wedi cynnal ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol am ein paninis a'n lattes tymhorol newydd. Rydym yn cynnig bynsen am ddim gyda choffi os ydynt yn cwblhau holiadur adborth ar-lein.

Ymgysylltiad digidol yw:

Defnyddio offer digidol i ddarlledu ac i wrando ar bobl. Yn aml, diffinnir hyn fel cyfathrebu, brandio a marchnata, ond mae'n cynnwys gwrando a defnyddio digidol i gael sgwrs dwy ffordd gyda phobl hefyd. Gall pobl fod yn ddefnyddwyr, cefnogwyr, staff, gwirfoddolwyr, rhanddeiliaid... unrhyw un sydd â rheswm i boeni am y sefydliad.

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut gallem ddweud wrth bobl amdanom ni a'n gwasanaethau?

Sut gallem ddarganfod ffyrdd gwell i bobl roi adborth?

Sut gallem ddeall yn well yr hyn mae pobl ei angen gennym ni?

Ased pwysig

Strategaeth cyfathrebu i arwain ar yr hyn rydych chi'n ei wneud a sut rydych chi'n gwneud hynny.

Dysgu mwy

  • Gall cwrs hyfforddiant marchnata digidol am ddim Control R: Platypus Digital eich helpu i ddysgu'r sylfaenol.
6. Sgiliau digidol a chynhwysiad

#pobl #sgiliau #chynhwysiad

Yn y caffi...

Fel mae'r busnes yn tyfu rydym yn cyflwyno system talu ddigidol newydd. Gall cwsmeriaid ddefnyddio'u ffôn clyfar i dalu, gan ddefnyddio PIN neu dechnoleg digyffwrdd. Ond nid yw'n rhwydd bob tro i'n cwsmeriaid ddeall sut i'w defnyddio, ac nid oes gan bawb ffôn clyfar. Nid oes gan rhai o'r staff yr hyder i helpu'r cwsmeriaid yma chwaith. Felly, rydym yn parhau i dderbyn yr hen ffyrdd o dalu, ac yn hyfforddi ein staff ar sut i helpu cwsmeriaid gyda'u sgiliau digidol.

Sgiliau digidol a chynhwysiad yw:

Sicrhau bod buddiannau'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn agored i bawb. 

Cael gwared ar y rhwystrau mynediad i'r rhyngrwyd (e.e. tlodi digidol). Cefnogi pobl i ddysgu'r sgiliau i ddefnyddio'r rhyngrwyd. Cynyddu'r ysgogiad a'r ffydd i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn dda ac yn ddiogel.

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut gallem gefnogi ein defnyddwyr i ddefnyddio'r offer neu lwyfannau digidol newydd cyflwynwyd.

Sut gallem sicrhau fod y bobl sydd heb y sgiliau neu hyder digidol yn gallu cael mynediad i'r un gefnogaeth â phawb arall?

Sut gallem gefnogi ein staff i ddatblygu eu sgiliau, i roi tro ar offer newydd a chadw'n gyfoes.

Ased pwysig

Strategaeth cynhwysiad i arwain yr hyn rydych chi'n ei wneud a sut rydych chi'n gwneud hynny.

Dysgu mwy

7. Digideiddio gwasanaethau presennol

#profiaddefnyddiwr #dosbarthugwasanaeth

Yn y caffi...

Nawr mae'r caffi yn prysuro, ac mae hyn yn wych. Ond, ar brydiau yn ystod y dydd mae ciw mawr ac nid yw pobl yn disgwyl gorfod ciwio am bethau bellach! Er mwyn gallu cyfarfod disgwyliadau newidiol ein cwsmeriaid, ac i sicrhau nad yw pobl yn diflasu, rydym yn deall bod rhaid gwneud rhywbeth yn wahanol. Felly, rydym wedi creu gwasanaeth archebu ar-lein wedi fel nad oes rhaid i bobl giwio.

Digideiddio gwasanaethau presennol yw:

Ychwanegu nodweddion digidol i wasanaethau presennol gan greu rhywbeth sydd yn hawdd i bobl ei ddefnyddio. Gall hyn gynnwys integreiddio llwyfannau digidol presennol i mewn i wasanaeth (e.e. sesiynau fideo, cadw bwrdd ar-lein) neu newid y ffordd maent yn cael eu defnyddio o fewn gwasanaeth (e.e. sut mae cyfryngau cymdeithasol sefydliad yn ymateb i gwestiynau).

Gall hefyd gynnwys symud i fodel trosglwyddo 100% digidol (e.e. symud gwasanaeth wyneb i wyneb i fod ar-lein yn unig).

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut gallem newid y gwasanaeth yma i fod yn fwy sydyn ac yn haws i bobl ei ddefnyddio?

Sut gallem ddatblygu'r gwasanaeth yma i ymateb i ofynion newidiol pobl?

Sut gallem gynnig y gwasanaeth yma i bobl sydd yn well ganddynt gysylltu'n ddigidol?

Sut gallem gyrraedd y galwad cynyddol am ein gwasanaethau?

Ased pwysig

Dealltwriaeth o egwyddorion cynllunio - i'ch helpu arbrofi gyda syniadau newydd.

Os ydych chi'n symud i fod 100% ar-lein yna bydd angen i chi ddeall sut i gynnal proses cynllunio llawn hefyd.

Dysgu mwy

8. Gwasanaethau digidol newydd ac arloesedd

#arloesedd #profiaddefnyddiwr #trosglwyddogwasanaeth

Yn y caffi...

Mae mwy o fusnesau yn defnyddio'r caffi fel lle i'w staff gyfarfod a gweithio â'i gilydd. Mae'r busnesau yma wedi lleihau'r swyddfeydd ac wedi colli ystafelloedd cyfarfod oherwydd cynyddiad mewn gweithio o adref. Ond mae'r staff yn dal i fod angen treulio amser â'i gilydd. Rydym yn deall y gallem ymateb i'r angen yma. Yn ddiweddar rydym wedi agor yr ystafell fawr uwchben y caffi fel gofod i'w rhentu. Rydym wedi cymryd y brydles ac yn rhestru'r gofod ar ein gwefan a llwyfannau llogi eraill. Gall busnesau lleol ac unrhyw un arall logi'r ystafell ar-lein ac archebu bwyd a diod o flaen llaw. Gweddill yr amser, mae'r gofod yn cael ei ddefnyddio fel gorlif i'r caffi.

Gwasanaethau digidol newydd ac arloesedd yw:

Cynllunio gwasanaeth digidol newydd i gyfarfod anghenion mewn ffordd sydd yn newydd i'r sefydliad. Gellir atblygu gwasanaeth digidol o rywle arall, o sector arall hyd yn oed. Neu gellir cyfuno mewnwelediadau i anghenion y defnyddiwr gyda mewnwelediadau modelau trosglwyddo eraill mewn ffordd arloesol.

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut gallem gyfarfod anghenion newidiol pobl yn well?

Sut gallem ymateb i'r galwad cynyddol am ein gwasanaeth?

Sut gallem ddefnyddio mewnwelediadau gan ein defnyddwyr a'u hymddygiad digidol i gynllunio rhywbeth sydd yn well iddynt?

Ased pwysig

Dealltwriaeth o'r broses cynllunio - fel eich bod yn gallu cynnal prosiect cynllunio gwasanaeth o'r cychwyn i'r diwedd.

Dysgu mwy

  • Mae 'Pecyn Cymorth Digidol' CAST yn cyflwyno'r broses cynllunio fwyaf cyffredin defnyddir ar draws y sector wirfoddol.
  • Mae 'Dysgu meddwl cynllunio' yn gwrs hunanastudiaeth 5 wythnos dros e-bost i elusennau sydd yn mynd yn ddofn i mewn i'r broses cynllunio.
9. Ymarfer digidol

#pobl #ymddygiad #cymwyseddau

Yn y caffi...

Rydym wedi teithio'n bell iawn ar ein siwrne trawsffurfiad.

Heddiw, rydym yn deall ein cwsmeriaid a'r dechnoleg maen nhw'n ei ddefnyddio. Ac rydym yn deall technoleg ein hunain hefyd! Rydym yn defnyddio offer a phrosesau digidol gerbron y cwsmeriaid a thu ôl i'r llenni sydd wedi'u cynllunio'n dda ac yn effeithiol. Mae'r staff yn ddeddfol ac yn wastad yn barod i gynnig mewnwelediad ac awgrymiadau ar sut i wella ein defnydd o ddigidol. Mae'r arweinyddiaeth yn gyfrifol ac yn ystyriol o anghenion cwsmeriaid a staff pan ddaw at dechnoleg ddigidol.

Ymarfer digidol yw:

Sut rydych chi'n gwneud unrhyw beth digidol.

Mae'n gyfres o ymarferion ac ymddygiad gall y sefydliad cyfan ei fabwysiadu. 

Mae'n feddylfryd - parodrwydd i ddysgu - sydd yn helpu pobl i ddatblygu eu hymarferiad digidol unigol.

Mae'n ymwneud â meddwl yn feirniadol cymaint ag y mae am gymwyseddau, yn enwedig wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu a newid, a'n bywydau a'r cymunedau ehangach yn newid hefyd.

Efallai eich bod yn gofyn...

Sut gallem ni barhau i ddefnyddio digidol fel bod ein sefydliad yn dod yn fwy ymatebol ac yn fwy cadarn i newid?

Sut gallem ddod yn sefydliad mwy craff yn ddigidol?

Ydym ni'n bod yn gyfrifol? Ydym ni'n ystyried canlyniadau ac effaith cynyddol y ffordd rydym yn defnyddio digidol, nid y cyfleoedd yn unig?

Ased pwysig

Agwedd agored, chwilfrydig a pharodrwydd i barhau i ddysgu am ddigidol.

Dysgu mwy

10. Diffiniadau eraill
Cydnabyddiaeth

Mae rhannau o'r canllaw yn efelychu 'Yr hyn rydym yn ei ddysgu am sut mae'r sector yn deall digidol' gan Cassie Robinson, wedi ei ailddefnyddio gyda'i chaniatâd. Ysgrifennodd yr erthygl yn fis Ebrill 2019 yn ymateb i geisiadau cyllid digidol tra roedd yn gweithio fel Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Daeth yr erthygl yn adnodd conglfaen ar gyfer egluro a deall digidol yn y sector gwirfoddol.

Rhan o'r rheswm am lwyddiant erthygl Cassie oedd a) bod neb wedi ceisio disgrifio ehangder digidol ar gyfer y sector o'r blaen, a b) oherwydd y gyfatebiaeth caffi hyfryd.

Mae'r canllaw newydd yma wedi cael ei greu yn dilyn ymgynghoriad gyda phobl yn y sector sydd yn aml yn cyfeirio at erthygl Cassie. Diolch i'r canlynol am eu cymorth yn adolygu'r canllaw yma:

Wedi'i gyfieithu gan ProMo-Cymru gyda chyllid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.